Clirio'r Ucheldiroedd

Gweddillion tyddynnod ar ynys Fuaigh Mòr yn Loch Roag. Cliriwyd yr ynys yn 1841 i'w defnyddio ar gyfer defaid

Clirio'r Ucheldiroedd (Gaeleg: Fudach nan Gàidheal, Saesneg: Highland Clearances) yw'r term a ddefnyddir am y broses o orfodi cyfran helaeth o drigolion Ucheldiroedd yr Alban i adael eu catrefi a'u tyddynnod yn y 18g a'r 19g. Symudodd llawer ohonynt i Iseldiroedd yr Alban, a llawer i wledydd tramor megis Canada a'r Unol Daleithiau

Dan hen system y clan, roedd gan y pennaeth ddyletswyddau tuag at aelodau eraill y clan, a chanddynt hwythau ddyletswydd i ymladd drosto ef pan oedd gofyn. Po fwyaf o ddilynwyr oedd gan bennaeth y clan, mwyaf oedd ei rym. Dechreuodd hyn newid yn dilyn Brwydr Culloden a'r ddeddf a basiwyd yn 1746 yn diarfogi trigolion yr Ucheldiroedd, yn ogystal â gwahardd eu gwisg draddodiadol. Daeth y penaethiaid yn dirfeddianwyr, gyda pherthynas wahanol a'r bobl oedd yn dal tiroedd ar eu hystadau. Erbyn ail hanner y 18g, roedd cadw gwartheg, ac yn arbennig defaid, yn talu'n well na chadw'r tenantiaid bychain.

O ganlyniad, dechreuodd y tirfeddianwyr ar y broses i orfodi'r tenantiaid i adael. Un flwyddyn pa fu llawer o fudo oedd 1792, a ddaeth i'w galw yn "Flwyddyn y Defaid" gan drigolion yr Ucheldiroedd. Cynyddodd y clirio ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Bu newyn yn yr Ucheldiroedd rhwng 1846 a 1857 pan fethodd y cnwd tatws, cyffelyb i Newyn Mawr Iwerddon ar raddfa lai. Manteisiodd y tirfeddianwyr ar hyn i yrru mwy o'r tenantiaid o'u tyddynod.

Lleihaodd y broses yma boblogaeth yr Ucheldiroedd yn fawr, ac mewn llawer ardal erys y boblogaeth yn llawer llai nag oedd yn y 18g. Cafodd effaith ieithyddol hefyd, gan mai siaradwyr Gaeleg oedd mwyafrif mawr y rhai a yrrwyd o'r wlad. Bu'n elfen bwysig yn nirywiad sefyllfa'r iaith. Amcangyfrifir i 25,000 o siaradwyr Gaeleg gyrraedd Ynys Cape Breton, Nova Scotia rhwng 1775 a 1850. Ar ddechrau'r 20g, roedd tua 100,000 o siaradwyr Gaeleg yno, ond erbyn dechrau'r 21ain ganrif roedd y nifer o dan fil.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search